Cysylltu â ni

Cofrestrwch eich diddordeb mewn astudio a chael cyngor ar sut i’w ariannu

Dechreuwch eich taith ddysgu heddiw

Bydd p’un a gaiff eich astudiaethau eu hariannu yn dibynnu ar eich gweithle a’ch cymhwystra personol, yn ogystal â’r math o astudio yr hoffech ei wneud. Mae angen rhywfaint o wybodaeth arnom gennych i ddechrau.

Ariannu eich astudiaethau

Darperir Cronfa Ddysgu Undebau Cymru gan Lywodraeth Cymru i helpu i gefnogi dysgu oedolion yn y gweithle a arweinir gan undebau. Mae gan bob gweithiwr yng Nghymru y cyfle i fanteisio ar y gronfa, a gall y gronfa gefnogi dysgu megis microgymwysterau a chyrsiau Mynediad Y Brifysgol Agored.

Mae cymorth ariannol ar gael ar gyfer myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig rhan-amser cymwys yng Nghymru, ac os oes gennych anabledd neu anhawster dysgu penodol, efallai y byddwch yn gymwys i gael Lwfans Myfyrwyr Anabl neu un o ysgoloriaethau neu fwrsarïau’r Brifysgol Agored.

Cofrestrwch eich diddordeb mewn astudio

Byddem wrth ein bodd yn eich cael fel aelod o gymuned Y Brifysgol Agored; mae gennym lawer o bethau i’w rhannu â chi, gan gynnwys gwybodaeth bwysig yn ymwneud ag astudio gyda’r Brifysgol Agored.

Atebion i’ch cwestiynau