Barod am y Dyfodol
Hyfforddiant hyder gyrfa am ddim
8 Wythnos. 8 Sgil. Eich Dyfodol.
Gweithdai ar-lein amser cinio – dim ond awr yr wythnos.
Ydych chi’n ystyried swydd newydd? Megis dechrau yn y farchnad swyddi? Dychwelyd i’r gwaith wedi egwyl?
O ble bynnag y dewch, mae’ch cam nesaf yn dechrau yma.
Mewn awr yr wythnos, yn ystod eich amser cinio, byddwch yn ymuno â lleoliad ymlaciol, cefnogol ar-lein lle byddwn yn canolbwyntio arnoch chi – eich gwerthoedd, cryfderau, a’ch nodau.
Gyda’n gilydd, byddwn yn eich helpu i:
- Chwilio llwybrau gyrfa sy’n cyd-fynd â phwy ydych chi
 - Creu CVau a ffurflenni cais pwerus
 - Meithrin sgiliau cyfweliad ar gyfer pob fformat
 - Creu cynllun gweithredu personol, realistig ar gyfer eich cam nesaf.
 
			Pam Ymuno?
- Dim ond awr yr wythnos
 - Yn gyfan gwbl ar-lein – cewch ymuno o rywle
 - Cinio a dysgu – mae’n plethu’n rhwydd i’ch diwrnod
 - Yn gyfan gwbl am ddim
 
Cofrestrwch ar gyfer Barod am y Dyfodol 2025
8 Wythnos. 8 Sgil. Byddwch yn hyderus.
Mae wythnos 1 yn dechrau ddydd Mercher 15 Hydref 2025 a chynhelir y sesiynau am 7 wythnos arall rhwng 12 – 1pm bob dydd Mercher tan y sesiwn olaf ar ddydd Mercher 3 Rhagfyr 2025.
Cofrestrwch yma am ddim – mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig.
			Mae Barod am y Dyfodol yn rhaglen y Brifysgol Agored yng Nghymru mewn partneriaeth ag: Unsain Cymru, USDAW, BECTU/Prospect, PCS, TUC Cymru, RCN, CWU ac Unite.