Cysylltu â ni

Cofrestrwch eich diddordeb mewn astudio a chael cyngor ar sut i’w ariannu

Dechreuwch eich taith ddysgu heddiw

Bydd p’un a gaiff eich astudiaethau eu hariannu yn dibynnu ar eich gweithle a’ch cymhwystra personol, yn ogystal â’r math o astudio yr hoffech ei wneud. Mae angen rhywfaint o wybodaeth arnom gennych i ddechrau.

Cam 1

Cwblhewch a chyflwynwch y ddwy ffurflen ar y dudalen hon i anfon eich manylion atom a chadarnhau y gallwn gysylltu â chi.

Cam 2

Edrychwch ar y mathau o gyrsiau sydd ar gael a nodwch beth yr hoffech ei astudio.

Cam 3

Bydd aelod o dîm Y Brifysgol Agored yng Nghymru a/neu un o arweinwyr undeb Cronfa Ddysgu Undebau Cymru mewn cysylltiad i drafod ariannu eich astudiaethau.

Ariannu eich astudiaethau

Darperir Cronfa Ddysgu Undebau Cymru gan Lywodraeth Cymru i helpu i gefnogi dysgu oedolion yn y gweithle a arweinir gan undebau. Mae gan bob gweithiwr yng Nghymru y cyfle i fanteisio ar y gronfa, a gall y gronfa gefnogi dysgu megis microgymwysterau a chyrsiau Mynediad Y Brifysgol Agored.

Mae cymorth ariannol ar gael ar gyfer myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig rhan-amser cymwys yng Nghymru, ac os oes gennych anabledd neu anhawster dysgu penodol, efallai y byddwch yn gymwys i gael Lwfans Myfyrwyr Anabl neu un o ysgoloriaethau neu fwrsarïau’r Brifysgol Agored.

Cofrestrwch eich diddordeb mewn astudio

Llenwch y ddwy ffurflen isod a gadewch i ni eich helpu i ddechrau ar eich taith ddysgu heddiw.

Rhan 1. Cyflwynwch eich diddordeb i gael mynediad i Gronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF)


    [group union-group]

    Ar ôl i chi gwblhau'r ffurflen, caiff eich cyfeiriad e-bost ei anfon at reolwr Cronfa Ddysgu Undebau Cymru ar gyfer yr undeb rydych wedi'i ddewis. Bydd rheolwr Cronfa Ddysgu Undebau Cymru yn cysylltu â chi i drafod y camau nesaf.

    [/group]
    [group ou-contact]

    You still may be eligible for WULF or an alternative way to fund your study.


    Yes

    [/group]

    Gall adnodd dod o hyd i undeb TUC Cymru eich helpu i ddod o hyd i'r undeb cywir.

    Os nad ydych yn aelod o undeb, dewiswch yr undeb sy'n cynrychioli eich gweithle a/neu eich proffesiwn.


    SaesnegCymraeg

     

    We would love to have you as The Open University community; we have lots to tell you about, including important information relating to OU study. We may contact you by email, phone, text, post or digital channels.

    The OU may also occasionally invite you to take part in market research. The OU promises never to sell your data to anyone else. Of course, you can unsubscribe or change your preferences at any time.

    For more details about how The OU uses your data, see our privacy policy.

     

    Can The Open University stay in touch with you? *

     

    Rhan 2. Cofrestrwch gyda’r Brifysgol Agored

    Byddem wrth ein bodd yn eich cael fel aelod o gymuned Y Brifysgol Agored; mae gennym lawer o bethau i’w rhannu â chi, gan gynnwys gwybodaeth bwysig yn ymwneud ag astudio gyda’r Brifysgol Agored.

    Atebion i’ch cwestiynau

    Beth sy'n digwydd unwaith y byddaf wedi cofrestru fy niddordeb i astudio?

    Unwaith y byddwch wedi cofrestru eich diddordeb i astudio gyda ni, bydd cynrychiolydd o naill ai’r undeb rydych wedi’i ddewis a/neu’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.

    Os na fyddwch wedi clywed gan rywun o fewn 10 diwrnod gwaith, efallai y byddai’n werth edrych yn eich ffolderi sbam/sothach rhag ofn.

    Os na fyddwch wedi cael unrhyw ymateb, e-bostiwch partneriaethau-cymru@open.ac.uk yn uniongyrchol.

    Pa gamau y mae'n rhaid i mi eu cymryd cyn y gallaf ddechrau astudio?

    Cyn astudio yn Y Brifysgol Agored yng Nghymru, mae angen i chi sicrhau bod y cwrs yn addas i chi a’ch bod wedi cael yr holl wybodaeth sydd ar gael i chi cyn gwneud eich penderfyniad. Cyn i chi gofrestru ar gwrs, mae’n RHAID i chi gofrestru eich diddordeb i astudio a chysylltu â’ch arweinydd ar gyfer Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF) os oes cost am gwblhau’r cwrs i weld a yw’n gymwys i gael ei ariannu gan y gronfa. Felly dylech ganiatáu cyfnod o 6 wythnos cyn y dyddiad cau ar gyfer cofrestru.