Dysgu gyda’ch undeb

Dysgwch sut y gall undebau helpu i gefnogi’ch astudiaethau

Dysgwch fwy am y ffordd y gall Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF) ddileu rhwystrau i ddysgu a’ch helpu i gyflawni eich nodau.

Ariannu eich dysgu drwy Gronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF)

Darperir Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF) gan Lywodraeth Cymru i helpu i gefnogi dysgu oedolion a arweinir gan undebau yn y gweithle. WULF is an opportunity for you to learn through your union, courses can take place online from home or at work. You can even aim to study with The Open University. Mae pob gweithiwr yng Nghymru yn cael y cyfle i gael mynediad i’r gronfa, er na all WULF ariannu cyrsiau gradd Prifysgol yn llawn, ond gellir cefnogi dysgu fel microgredydau israddedig y Brifysgol Agored a chyrsiau Mynediad Agored (sylfaen).

Tri cham i gael cyllid i astudio

CAM 1

Cysylltwch a chofrestrwch
eich diddordeb

CAM 2

Dewiswch gwrs

CAM 3

Bydd aelod o’r tîm
mewn cysylltiad

Os byddwch yn dewis:

  • Dechrau gyda chwrs OpenLearn, nid oes angen i chi wneud cais am gyllid gan fod cyrsiau OpenLearn am ddim i bawb. Ewch i OpenLearn.com i ddechrau arni. Gallwch hefyd greu cyfrif OpenLearn am ddim sy’n eich galluogi i ddefnyddio rhagor o nodweddion, olrhain eich cynnydd ar gyrsiau a chael tystysgrifau cwblhau.
  • Microgymhwyster neu gwrs Mynediad, bydd angen i dîm Cronfa Ddysgu Undebau Cymru eich undeb roi cymorth i chi gyda’ch cais.Cofrestrwch eich diddordeb a byddwn mewn cysylltiad. Darganfyddwch pa undeb(au) sy’n gweithio yn eich sector drwy ddefnyddio adnodd dod o hyd i undeb TUC.
  • Math arall o gwrs neu gymhwyster y Brifysgol Agored, cysylltwch â ni a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi i drafod eich opsiynau ariannu.

Stori Craig am ei gwrs Mynediad Agored

Mae Craig Kinsey yn Gynrychiolydd Dysgu Undeb ac yn ddysgwr gydag Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu. Yn y fideo byr hwn, mae Craig yn sôn am ei gwrs Mynediad Agored gyda’r Brifysgol Agored yng Nghymru a gafodd ei ariannu’n llawn gan Gronfa Ddysgu Undebau Cymru.

Yn y fideo, mae Craig yn sôn am fanteision y gronfa, a’i brofiad ar ei gwrs carlam Mynediad Agored ar-lein am y Celfyddydau ac Iaith. Gadawodd Craig yr ysgol â 4 TGAU, ac mae’n dweud wrthym fod y cwrs hwn wedi gwella ei sgiliau ysgrifennu, atalnodi a gramadeg a’i fod wedi dysgu sut i gyfeirnodi gwaith eraill ac ysgrifennu mewn ffordd feirniadol.

Yn ei rôl fel Cynrychiolydd Dysgu’r Undeb, mae Craig yn annog aelodau eraill i ddysgu, a bod cwblhau’r cwrs hwn wedi helpu ei aelodau i ymddiried ynddo pan fydd yn eu hannog i fynd ati i ddysgu. Gwnaeth fwynhau dysgu ar ei gyflymder ei hun a hynny o gwmpas ei fywyd a’i waith. Cafodd diwtor un-i-un hefyd y gallai ei ffonio, ei e-bostio neu anfon neges destun ato.

“Byddwn yn dweud mai’r Brifysgol Agored yw’r profiad gorau rwyf erioed wedi’i gael yn dysgu ar-lein neu’n dysgu gartref oherwydd bod cymaint o gymorth ar gael” — Craig Kinsey.

Nodau cyffredinol Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF) yw:

Gwella sgiliau’r gweithlu gyda phwyslais ar wella sgiliau hanfodol, sgiliau digidol a sgiliau cyflogadwyedd y gweithlu yng Nghymru, gan gefnogi gweithwyr i symud ymlaen i ddysgu pellach ac ennill cymwysterau perthnasol.

Cefnogi Cynrychiolwyr Dysgu Undebau i gynyddu’r galw am ddysgu gan ddysgwyr anhraddodiadol neu ddysgwyr anodd eu cyrraedd drwy gynorthwyo gweithwyr agored i niwed sydd â lefelau sgiliau isel neu o grwpiau dan anfantais a’u helpu i oresgyn rhwystrau i ddysgu.

Gellir teilwra cymorth a chefnogaeth yn unol â’ch anghenion unigol. Mae Cronfa Ddysgu Undebau Cymru wedi’i chynllunio i ddileu rhwystrau i ddysgu a gall gynnig opsiynau hyblyg sy’n addas i chi yn y meysydd canlynol: iechyd a llesiant, sgiliau hanfodol a digidol, sgiliau galwedigaethol, y Gymraeg, cyflogadwyedd a newid gyrfa, colli swydd a newid gweithle, gweithwyr ifanc a gweithwyr hŷn, llwybrau cynnydd, cyllid, cyd-drafod a phecynnau hyfforddiant wedi’u teilwra.

Cynnydd a datblygiad

Gall Cronfa Ddysgu Undebau Cymru eich helpu i adolygu, asesu a chynllunio eich taith ddysgu. Nid yw cynnydd a chyflawniadau yn digwydd dros nos. Bydd y gronfa yn eich helpu gam wrth gam.

Gall deall lefelau, credydau a chymwysterau fod yn ddryslyd ac ychydig yn anodd weithiau, felly gadewch i’r arbenigwyr helpu. Rydym yn cadw pethau’n syml yn Y Brifysgol Agored – lefel 1, 2 a 3 – mae pob modiwl yn werth nifer penodol o gredydau, ac mae angen 360 o gredydau arnoch i ennill gradd.

Gall Y Brifysgol Agored fapio eich sgiliau presennol a’ch dysgu blaenorol er mwyn eich helpu i gyflawni cymhwyster neu gredyd

Efallai yr hoffech ddechrau drwy ddysgu anffurfiol am ddim gydag OpenLearn. Gall hwn fod yn gam cyntaf gwych, a gallwch symud ymlaen yn hawdd i gwrs Mynediad a thu hwnt i raglen radd lawn. Mae modiwl penodol o’r enw Gwneud i’ch Dysgu Gyfrif hefyd, sydd wedi’i gynllunio i gynnwys eich dysgu anffurfiol, er mwyn eich helpu i ennill eich cymhwyster modiwl ffurfiol cyntaf gyda’r Brifysgol Agored (30 o gredydau L1).

Efallai fod gennych radd eisoes neu efallai eich bod am uwchsgilio gan ddefnyddio un o ficrogymwysterau’r Brifysgol Agored neu fath arall o gwrs byr datblygu proffesiynol.

Pori drwy gyrsiau yn ôl thema ddysgu

Cynlluniwyd Cronfa Ddysgu Undebau Cymru i ariannu dysgu o dan sawl thema ddysgu, yn seiliedig ar feysydd gweithredu Llywodraeth Cymru i gael Cymru Gryfach, Decach a Gwyrddach. Gallwch edrych drwy enghreifftiau isod o gyrsiau cyflogadwyedd a sgiliau sydd ar gael ym mhob maes dysgu.

Cyrsiau dysgu am oes

Gwella mynediad, cyfleoedd, hyder, lefelau sgiliau a chymhwyster, symudedd pobl yn y gwaith ac yn cefnogi pobl i symud i waith newydd neu well..

Anghydraddoldeb economaidd

Creu cyfleoedd a chefnogi oedolion sy’n cael trafferth dod o hyd i waith neu ei gadw a’u helpu i ddatblygu ym myd gwaith / cyflogaeth.

Datblygiad proffesiynol parhaus staff undebau

Detholiad o gyrsiau datblygiad proffesiynol parhaus i weithredwyr a gweithwyr undebau, Cynrychiolwyr Dysgu Undebau ac ati.

Gradd-brentisiaethau gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru

Gradd-brentisiaeth mewn Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol

Mae’r brentisiaeth yn addas i gyflogeion newydd a rhai presennol sy’n gweithio mewn rolau digidol a thechnoleg ac sy’n treulio’r rhan fwyaf o’u horiau gwaith yng Nghymru.

Caiff y brentisiaeth ei hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru drwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Bod yn Hyrwyddwr OpenLearn

Rhaglen eiriolaeth gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru yw Hyrwyddwyr OpenLearn a all helpu i chwalu rhwystrau i ddysgu drwy helpu pobl i ymgyfarwyddo ag OpenLearn, gwefan dysgu ar-lein am ddim Y Brifysgol Agored.

Caiff Hyrwyddwyr OpenLearn eu hyfforddi i helpu i ledaenu’r neges am gyfleoedd dysgu am ddim yn eu gweithleoedd a’u cymunedau. Y syniad yw ysbrydoli cariad at ddysgu a chefnogi oedolion ledled Cymru i ddatblygu sgiliau, magu hyder ac archwilio’r hyn sydd gan OpenLearn i’w gynnig.

Os ydych yn frwd dros ddysgu gydol oes, gall bod yn Hyrwyddwr OpenLearn fod yn ffordd wych o helpu pobl i ddatblygu sgiliau, gwella eu hyder a darganfod pethau newydd

Atebion i’ch cwestiynau

Faint y gall Cronfa Ddysgu Undebau Cymru ei ariannu?

Byddem yn awgrymu bod cyfanswm cyfartalog o tua £200 y person, y flwyddyn yn arferol ar gyfer llawer o brosiectau. Cysylltwch â thîm Cronfa Ddysgu Undebau Cymru eich undeb i ddysgu mwy. . Gall rhai undebau gyfrannu a thalu cost lawn cwrs. Mae rhai undebau yn trefnu cyrsiau am gyfraddau â chymhorthdal ac yn gofyn am gyfraniadau gan ddysgwyr neu gyflogwyr.

Sut mae Cronfa Ddysgu Undebau Cymru yn gweithio?

Mae undebau llafur yn gwneud cais am gyllid am hyd at dair blynedd er mwyn trefnu a / neu dalu am gyfleoedd dysgu i aelodau o’r undeb a’u cydweithwyr nad ydynt yn aelodau. Mae cyflwyno mentrau dysgu a arweinir gan undebau yn helpu pawb i uwchsgilio a gwneud cynnydd yn eu bywydau gwaith a phersonol.

Beth yw Cronfa Ddysgu Undebau Cymru a sut y gall fy helpu i?

Cronfa Ddysgu Undebau Cymru yw un o’r unig gynlluniau yng Nghymru sy’n agored i bob dysgwr sy’n oedolyn ac yn gweithio. Nid oes rhaid i chi fod yn aelod o undeb; ychydig iawn o feini prawf cymhwystra sydd ac mae wedi’i chynllunio i helpu gweithwyr mewn amrywiaeth o ddiwydiannau a sectorau sydd ag ystod eang o anghenion. Caiff y gronfa ei chynnal gan arbenigwyr cyfeillgar a all drefnu mynediad wedi’i deilwra at gyllid a chyfleoedd newydd.

Ni all Cronfa Ddysgu Undebau Cymru ariannu cyrsiau gradd Addysg Uwch na hyfforddiant y mae cyflogwr yn unig yn gyfrifol am ei ddarparu.

Efallai y bydd y fideo hwn yn ddefnyddiol i chi ddeall beth yw Cronfa Ddysgu Undebau Cymru.

Pam dysgu drwy undeb?
Mae dysgu gyda chymorth undeb yn cynnig cyfle unigryw i gael cymorth ychwanegol. Rydych yn fwy tebygol o gael cyngor ac arweiniad o ansawdd ac wedi’u teilwra a llwyddo i gael cyllid tuag at gost cwrs pan fyddwch yn y gwaith.

Gellir addasu cymorth hyblyg a’i gynllunio yn unol â’ch anghenion a’ch cyfrifoldebau.

Gall Cynrychiolwyr Dysgu Undebau sydd wedi’u hyfforddi’n llawn eich arwain a’ch cefnogi ar bob cam o’ch taith ddysgu.

Gall timau arbenigol Cronfa Ddysgu Undebau Cymru gyd-drafod â chyflogwyr ar eich rhan, sicrhau cyllid ar gyfer y cwrs o’ch dewis, talu’r darparwr yn uniongyrchol, cynnal cyrsiau ar amser cyfleus, a datblygu cyrsiau newydd wedi’u teilwra.

Os nad wyf yn gymwys i gael cyllid, pa opsiynau talu sydd ar gael?

Mae cymorth ariannol ar gael i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig rhan-amser cymwys yng Nghymru drwy Cyllid Myfyrwyr Cymru. Gallwch chi neu eich cyflogwr hefyd dalu gan ddefnyddio cyfuniad o’r canlynol:

 

 phwy y mae angen i mi siarad?

Gall tîm Cronfa Ddysgu Undebau Cymru a chynrychiolwyr yr undeb wneud yr holl siarad i chi! Cymerwch y cam cyntaf a chofrestrwch eich diddordeb a gall aelod o dîm Cronfa Ddysgu Undebau Cymru neu’r Brifysgol Agored yng Nghymru eich cynghori ar eich camau nesaf.