Barod am y Dyfodol

Hyfforddiant hyder gyrfa am ddim

8 Wythnos. 8 Sgil. Eich Dyfodol.

Gweithdai ar-lein amser cinio – dim ond awr yr wythnos.

Ydych chi’n ystyried swydd newydd? Megis dechrau yn y farchnad swyddi? Dychwelyd i’r gwaith wedi egwyl?

O ble bynnag y dewch, mae’ch cam nesaf yn dechrau yma.

Mae Barod am y Dyfodol yn gwrs 8 wythnos ar-lein am ddim, wedi’i lunio i roi’r adnoddau, eglurdeb, a hyder i chi lywio’ch gyrfa ar eich telerau chi.

Mewn awr yr wythnos, yn ystod eich amser cinio, byddwch yn ymuno â lleoliad ymlaciol, cefnogol ar-lein lle byddwn yn canolbwyntio arnoch chi – eich gwerthoedd, cryfderau, a’ch nodau.

Gyda’n gilydd, byddwn yn eich helpu i:

  • Chwilio llwybrau gyrfa sy’n cyd-fynd â phwy ydych chi
  • Creu CVau a ffurflenni cais pwerus
  • Meithrin sgiliau cyfweliad ar gyfer pob fformat
  • Creu cynllun gweithredu personol, realistig ar gyfer eich cam nesaf.

Pam Ymuno?

  • Dim ond awr yr wythnos
  • Yn gyfan gwbl ar-lein – cewch ymuno o rywle
  • Cinio a dysgu – mae’n plethu’n rhwydd i’ch diwrnod
  • Yn gyfan gwbl am ddim

Cofrestrwch ar gyfer Barod am y Dyfodol 2025

Mae eich dyfodol yn dechrau Nawr

8 Wythnos. 8 Sgil. Byddwch yn hyderus.

Mae wythnos 1 yn dechrau ddydd Mercher 15 Hydref 2025 a chynhelir y sesiynau am 7 wythnos arall rhwng 12 – 1pm bob dydd Mercher tan y sesiwn olaf ar ddydd Mercher 3 Rhagfyr 2025.

Cofrestrwch yma am ddim – mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig.

Mae Barod am y Dyfodol yn rhaglen y Brifysgol Agored yng Nghymru mewn partneriaeth ag: Unsain Cymru, USDAW, BECTU/Prospects, PCS, TUC Cymru, RCN, CWU ac Unite.