Dysgu gyda’ch undeb
Dysgwch sut y gall undebau helpu i gefnogi’ch astudiaethau
Dysgwch fwy am y ffordd y gall Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF) ddileu rhwystrau i ddysgu a’ch helpu i gyflawni eich nodau.
Ariannu eich dysgu drwy Gronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF)
Darperir Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF) gan Lywodraeth Cymru i helpu i gefnogi dysgu oedolion a arweinir gan undebau yn y gweithle. WULF is an opportunity for you to learn through your union, courses can take place online from home or at work. You can even aim to study with The Open University. Mae pob gweithiwr yng Nghymru yn cael y cyfle i gael mynediad i’r gronfa, er na all WULF ariannu cyrsiau gradd Prifysgol yn llawn, ond gellir cefnogi dysgu fel microgredydau israddedig y Brifysgol Agored a chyrsiau Mynediad Agored (sylfaen).
Tri cham i gael cyllid i astudio
CAM 1
Cysylltwch a chofrestrwch
eich diddordeb
CAM 2
Dewiswch gwrs
CAM 3
Bydd aelod o’r tîm
mewn cysylltiad
Os byddwch yn dewis:
- Dechrau gyda chwrs OpenLearn, nid oes angen i chi wneud cais am gyllid gan fod cyrsiau OpenLearn am ddim i bawb. Ewch i OpenLearn.com i ddechrau arni. Gallwch hefyd greu cyfrif OpenLearn am ddim sy’n eich galluogi i ddefnyddio rhagor o nodweddion, olrhain eich cynnydd ar gyrsiau a chael tystysgrifau cwblhau.
- Microgymhwyster neu gwrs Mynediad, bydd angen i dîm Cronfa Ddysgu Undebau Cymru eich undeb roi cymorth i chi gyda’ch cais.Cofrestrwch eich diddordeb a byddwn mewn cysylltiad. Darganfyddwch pa undeb(au) sy’n gweithio yn eich sector drwy ddefnyddio adnodd dod o hyd i undeb TUC.
- Math arall o gwrs neu gymhwyster y Brifysgol Agored, cysylltwch â ni a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi i drafod eich opsiynau ariannu.
Stori Craig am ei gwrs Mynediad Agored
Mae Craig Kinsey yn Gynrychiolydd Dysgu Undeb ac yn ddysgwr gydag Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu. Yn y fideo byr hwn, mae Craig yn sôn am ei gwrs Mynediad Agored gyda’r Brifysgol Agored yng Nghymru a gafodd ei ariannu’n llawn gan Gronfa Ddysgu Undebau Cymru.
Yn y fideo, mae Craig yn sôn am fanteision y gronfa, a’i brofiad ar ei gwrs carlam Mynediad Agored ar-lein am y Celfyddydau ac Iaith. Gadawodd Craig yr ysgol â 4 TGAU, ac mae’n dweud wrthym fod y cwrs hwn wedi gwella ei sgiliau ysgrifennu, atalnodi a gramadeg a’i fod wedi dysgu sut i gyfeirnodi gwaith eraill ac ysgrifennu mewn ffordd feirniadol.
Yn ei rôl fel Cynrychiolydd Dysgu’r Undeb, mae Craig yn annog aelodau eraill i ddysgu, a bod cwblhau’r cwrs hwn wedi helpu ei aelodau i ymddiried ynddo pan fydd yn eu hannog i fynd ati i ddysgu. Gwnaeth fwynhau dysgu ar ei gyflymder ei hun a hynny o gwmpas ei fywyd a’i waith. Cafodd diwtor un-i-un hefyd y gallai ei ffonio, ei e-bostio neu anfon neges destun ato.
“Byddwn yn dweud mai’r Brifysgol Agored yw’r profiad gorau rwyf erioed wedi’i gael yn dysgu ar-lein neu’n dysgu gartref oherwydd bod cymaint o gymorth ar gael” — Craig Kinsey.
Nodau cyffredinol Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF) yw:
Gwella sgiliau’r gweithlu gyda phwyslais ar wella sgiliau hanfodol, sgiliau digidol a sgiliau cyflogadwyedd y gweithlu yng Nghymru, gan gefnogi gweithwyr i symud ymlaen i ddysgu pellach ac ennill cymwysterau perthnasol.
Cefnogi Cynrychiolwyr Dysgu Undebau i gynyddu’r galw am ddysgu gan ddysgwyr anhraddodiadol neu ddysgwyr anodd eu cyrraedd drwy gynorthwyo gweithwyr agored i niwed sydd â lefelau sgiliau isel neu o grwpiau dan anfantais a’u helpu i oresgyn rhwystrau i ddysgu.
Gellir teilwra cymorth a chefnogaeth yn unol â’ch anghenion unigol. Mae Cronfa Ddysgu Undebau Cymru wedi’i chynllunio i ddileu rhwystrau i ddysgu a gall gynnig opsiynau hyblyg sy’n addas i chi yn y meysydd canlynol: iechyd a llesiant, sgiliau hanfodol a digidol, sgiliau galwedigaethol, y Gymraeg, cyflogadwyedd a newid gyrfa, colli swydd a newid gweithle, gweithwyr ifanc a gweithwyr hŷn, llwybrau cynnydd, cyllid, cyd-drafod a phecynnau hyfforddiant wedi’u teilwra.
Cynnydd a datblygiad
Gall Cronfa Ddysgu Undebau Cymru eich helpu i adolygu, asesu a chynllunio eich taith ddysgu. Nid yw cynnydd a chyflawniadau yn digwydd dros nos. Bydd y gronfa yn eich helpu gam wrth gam.
Gall deall lefelau, credydau a chymwysterau fod yn ddryslyd ac ychydig yn anodd weithiau, felly gadewch i’r arbenigwyr helpu. Rydym yn cadw pethau’n syml yn Y Brifysgol Agored – lefel 1, 2 a 3 – mae pob modiwl yn werth nifer penodol o gredydau, ac mae angen 360 o gredydau arnoch i ennill gradd.
Gall Y Brifysgol Agored fapio eich sgiliau presennol a’ch dysgu blaenorol er mwyn eich helpu i gyflawni cymhwyster neu gredyd
Efallai yr hoffech ddechrau drwy ddysgu anffurfiol am ddim gydag OpenLearn. Gall hwn fod yn gam cyntaf gwych, a gallwch symud ymlaen yn hawdd i gwrs Mynediad a thu hwnt i raglen radd lawn. Mae modiwl penodol o’r enw Gwneud i’ch Dysgu Gyfrif hefyd, sydd wedi’i gynllunio i gynnwys eich dysgu anffurfiol, er mwyn eich helpu i ennill eich cymhwyster modiwl ffurfiol cyntaf gyda’r Brifysgol Agored (30 o gredydau L1).
Efallai fod gennych radd eisoes neu efallai eich bod am uwchsgilio gan ddefnyddio un o ficrogymwysterau’r Brifysgol Agored neu fath arall o gwrs byr datblygu proffesiynol.
Pori drwy gyrsiau yn ôl thema ddysgu
Cynlluniwyd Cronfa Ddysgu Undebau Cymru i ariannu dysgu o dan sawl thema ddysgu, yn seiliedig ar feysydd gweithredu Llywodraeth Cymru i gael Cymru Gryfach, Decach a Gwyrddach. Gallwch edrych drwy enghreifftiau isod o gyrsiau cyflogadwyedd a sgiliau sydd ar gael ym mhob maes dysgu.
Cyrsiau dysgu am oes
Gwella mynediad, cyfleoedd, hyder, lefelau sgiliau a chymhwyster, symudedd pobl yn y gwaith ac yn cefnogi pobl i symud i waith newydd neu well..
Cyrsiau Gwaith iach, Cymru iach
Cefnogi pobl i wella eu hiechyd a’u llesiant, a galluogi amgylchedd gwaith iachach a hapusach a Chymru iachach sy’n ffynnu.
Gwaith teg i bawb
Gweithio mewn partneriaeth i wella mynediad, cyfleoedd cyfartal, cyflogau, cyfnod pontio teg ac ansawdd gwaith / cyflogaeth yng Nghymru.
Cenedlaethau’r dyfodol
Buddsoddi mewn pobl ifanc, cynnig cymorth i alluogi unigolion i gyflawni eu potensial llawn.
Anghydraddoldeb economaidd
Creu cyfleoedd a chefnogi oedolion sy’n cael trafferth dod o hyd i waith neu ei gadw a’u helpu i ddatblygu ym myd gwaith / cyflogaeth.
Datblygiad proffesiynol parhaus staff undebau
Detholiad o gyrsiau datblygiad proffesiynol parhaus i weithredwyr a gweithwyr undebau, Cynrychiolwyr Dysgu Undebau ac ati.
Gradd-brentisiaethau gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru
Gradd-brentisiaeth mewn Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol
Mae’r brentisiaeth yn addas i gyflogeion newydd a rhai presennol sy’n gweithio mewn rolau digidol a thechnoleg ac sy’n treulio’r rhan fwyaf o’u horiau gwaith yng Nghymru.
Caiff y brentisiaeth ei hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru drwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Bod yn Hyrwyddwr OpenLearn
Rhaglen eiriolaeth gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru yw Hyrwyddwyr OpenLearn a all helpu i chwalu rhwystrau i ddysgu drwy helpu pobl i ymgyfarwyddo ag OpenLearn, gwefan dysgu ar-lein am ddim Y Brifysgol Agored.
Caiff Hyrwyddwyr OpenLearn eu hyfforddi i helpu i ledaenu’r neges am gyfleoedd dysgu am ddim yn eu gweithleoedd a’u cymunedau. Y syniad yw ysbrydoli cariad at ddysgu a chefnogi oedolion ledled Cymru i ddatblygu sgiliau, magu hyder ac archwilio’r hyn sydd gan OpenLearn i’w gynnig.
Os ydych yn frwd dros ddysgu gydol oes, gall bod yn Hyrwyddwr OpenLearn fod yn ffordd wych o helpu pobl i ddatblygu sgiliau, gwella eu hyder a darganfod pethau newydd