Datganiad hygyrchedd
Datganiad hygyrchedd ar gyfer dysgutrwyrundeb.cymru
Mae’r Brifysgol Agored wedi ymrwymo i wneud ei gwefannau a’i chymwysiadau symudol yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i dysgutrwyrundeb.cymru
Rydym eisiau i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio ein gwefannau a’n apiau symudol, ac mae hygyrchedd yn rhan hanfodol o’n cenhadaeth. Ar ein Hwb hygyrchedd, fe welwch chi bopeth sydd ei angen arnoch i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am hygyrchedd, boed eich bod chi’n fyfyriwr neu’n aelod o staff.
Er mwyn addasu’r cynnwys i’ch anghenion neu’ch dewisiadau, dylech allu:
- Newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau.
- Newid maint testun hyd at 200% heb effeithio ar ymarferoldeb y wefan.
- Chwyddo i mewn hyd at 400% heb golli gwybodaeth na ymarferoldeb.
Llywio’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig. - Tabiwch i’r dolenni ‘Neidio i gynnwys’ ar frig y dudalen i neidio dros wybodaeth ailadroddus i’r prif gynnwys.
- Tabiwch drwy’r cynnwys; bydd y lleoliad presennol yn cael ei nodi gan newid gweledol clir.
- Rheoli’r chwaraewr cyfryngau mewnosodedig i chwarae deunyddiau sain a fideo.
Defnyddio darllenydd sgrin (e.e. JAWs, NVDA) i: - Gwrando ar gynnwys tudalennau gwe a defnyddio unrhyw ymarferoldeb ar y dudalen.
- Rhestru’r penawdau a’r is-benawdau yn y dudalen ac yna neidio i’w lleoliad ar y dudalen.
- Dangos rhestr o ddolenni ystyrlon ar y dudalen.
- Defnyddio trawsgrifiadau neu gapsiynau caeedig gyda’r rhan fwyaf o ddeunyddiau sain a fideo.
- Lawrlwythwch ddeunyddiau dysgu mewn fformatau amgen (e.e. dogfen Word, PDF, ePub).
Os oes gennych anabledd argraffu rydym yn darparu SensusAccess i fyfyrwyr, sef gwasanaeth awtomataidd sy’n trosi ffeiliau o un fformat i’r llall, er enghraifft, PDF i destun, sain, Word neu Braille.
AbilityNet hefyd yn rhoi cyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.
Statws cydymffurfiaeth
Mae’r rhaglen wefan hon yn cydymffurfio’n llawn â safon AA fersiwn 2.2 o Ganllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 21 Mawrth 2025.
Adolygwyd y datganiad ddiwethaf ar 31 Mawrth 2025.
Profwyd y wefan ddiwethaf ar 26 Mawrth 2025.
Roedd y dull profi a gymerwyd yn cynnwys y dulliau a’r offer canlynol:
- Axe DevTools (testun amgen, cyferbyniad lliw, labeli ffurflen, lefelau penawdau)
- Nod tudalen ANDI (labeli ffurflen, iaith y dudalen, teitl y dudalen, trefn ddarllen
- Modd dyfais Chrome DevTools (cyfeiriadedd)
- Gwiriadau â llaw (llywio bysellfwrdd, dolenni hepgor, newid maint a hail-lifo cynnwys, testun amgen, trefn ffocws, pwrpas dolen, llywio, cymorth mewnbwn, priodoleddau rôl)
- Darllenydd sgrin NVDA (testun dolen, trefn darllen, dilyniant ystyrlon, priodoleddau rôl)
- Gwiriwr Hygyrchedd Skilltide (testun amgen)
- Nod tudalen bylchau testun
- Nod tudalen maint targed
- Nod tudalen penawdau gwirio W3C
- Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os byddwch yn canfod nad yw adran benodol o’n gwefan yn hygyrch, ac na allwch gael mynediad at y wybodaeth sydd ei hangen arnoch, defnyddiwch y Ffurflen Adborth Hygyrchedd y Brifysgol Agored i ofyn am gymorth a byddwn yn sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Bydd angen i chi ddarparu eich manylion cyswllt a’ch Dynodwr Personol os ydych chi’n fyfyriwr fel y gallwn gysylltu â chi. Dylech ddisgwyl clywed yn ôl gennym o fewn 5 diwrnod gwaith.
Mae’r Brifysgol Agored yn brofiadol iawn o ran diwallu anghenion hygyrchedd ein myfyrwyr. Mewn llawer o achosion, rydym yn gallu darparu deunyddiau cymorth modiwl a deunyddiau astudio eraill mewn fformatau amgen i fyfyrwyr sy’n nodi bod angen hyn arnynt wrth gwblhaua Ffurflen Cymorth Anabledd.
Yn ogystal, mae rhai deunyddiau modiwl ar gael mewn gwahanol fformatau a gellir eu lawrlwytho o wefannau modiwlau. Gall myfyrwyr gysylltu â’u Tîm Cymorth Myfyrwyr am gyngor.
Os ydych chi’n fyfyriwr, neu’n rhywun sydd wedi bod mewn cysylltiad â’r Brifysgol o’r blaen, ac mae gennych chi gŵyn am hygyrchedd ein gwefannau, dylech chi godi cwyn drwy’r proses cwynion ac apeliadau.
Gweithdrefn orfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’).
Os ydych chi wedi’ch lleoli yn y DU, ac nad ydych chi’n hapus gyda sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Equality Advisory and Support Service (EASS).