Astudio gyda’r Brifysgol Agored

TUC Cymru mewn partneriaeth â’r Brifysgol Agored yng Nghymru

Dysgwch sut y gall astudio gyda’r Brifysgol Agored weithio i chi ac edrychwch drwy’r cyrsiau a’r cymwysterau a argymhellir gennym.

Mathau o astudiaethau sydd ar gael i chi

Cyrsiau a chymwysterau’r Brifysgol Agored

Cyflawnwch eich uchelgeisiau. Beth bynnag yr hoffech ei gyflawni, gall Y Brifysgol Agored eich helpu i wneud hynny. Nid oes angen unrhyw gymwysterau blaenorol arnoch i astudio gyda’r Brifysgol Agored a gallwch fagu hyder gyda modiwl Mynediad wrth i chi weithio tuag at y prif gymhwyster rydych yn anelu ato.

Uwchsgilio gyda microgymhwyster

Mae’r cyrsiau byr datblygu proffesiynol hyn wedi’u cynllunio i’ch helpu i uwchsgilio’n gyflym a chamu ymlaen. Gallwch ddatblygu sgiliau arbenigol mewn cyn lleied â 10-12 wythnos gyda dysgu ar-lein hyblyg

Dysgu ar-lein
am ddim

Mae gwefan dysgu ar-lein Y Brifysgol Agored, OpenLearn, yn cynnig dros 10,000 o oriau o ddysgu am ddim. Gallwch ddod o hyd i erthyglau, fideos a gemau yn ogystal â chyrsiau ar-lein a ysgrifennwyd gan arbenigwyr ar ystod enfawr o bynciau. Gallwch ddysgu ar gyflymder sy’n addas i chi, olrhain eich cynnydd ac ennill bathodynnau a thystysgrifau digidol.

Pori drwy gyrsiau a chymwysterau

Mae llawer o gymwysterau’r Brifysgol Agored yn helpu i’ch paratoi i symud o un cam i’r nesaf. Maent hefyd yn werthfawr yn eu rhinwedd eu hunain. Gallwch ddechrau gyda thystysgrif ac yna roi’r gorau iddi. Neu gallech barhau gyda’ch astudiaethau i ennill diploma ac yna radd.

Maent yn cyd-fynd yn berffaith â dysgu undebau a gall Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF) eich cefnogi i astudio microgymwysterau, cyrsiau byr a modiwlau Mynediad

Terminoleg cyrsiau

OpenLearn

OpenLearn yw llwyfan dysgu am ddim Y Brifysgol Agored, gan roi addysg am ddim i bawb fel rhan o’n cylch gwaith cymdeithasol. Rydym yn falch o ddweud ei fod yn cyrraedd dros 10 miliwn o ddysgwyr bob blwyddyn. P’un a oes angen help arnoch gyda mathemateg, Cymraeg neu Saesneg, camu ymlaen yn eich gyrfa neu reoli eich arian, gallwn eich helpu. Dechreuwch ar raddfa fach a datblygwch eich gwybodaeth a’ch portffolio

Ewch i wefan OpenLearn.

Microgymwysterau

Gallwch ddatblygu sgiliau arbenigol mewn cyn lleied â 10-12 wythnos gyda dysgu ar-lein hyblyg. Mae microgymwysterau yn cynnig y cydbwysedd perffaith rhwng rhagoriaeth academaidd a pherthnasedd i’r gweithle.

Drwy astudio 10-13 awr yr wythnos, gallwch ddatblygu:

  • Y wybodaeth ddiweddaraf mewn pwnc arbenigol, wedi’i llywio gan academyddion o safon fyd-eang
  • Sgiliau ymarferol y gallwch eu cymhwyso i’ch gwaith ar unwaith neu eu defnyddio i ategu eich CV
  • Credydau israddedig neu ôl-raddedig y gallech eu defnyddio yn y dyfodol tuag at astudio ymhellach drwy gyfrif microgymwysterau tuag at gymwysterau’r Brifysgol Agored.

Gallwch ddechrau eich dysgu ym mis Mawrth, Mehefin/Gorffennaf neu Hydref. Gellir ariannu’r cyrsiau hyn drwy Gronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF) .

Cyrsiau byr
Dim ond ychydig o oriau’r wythnos sydd eu hangen arnoch i astudio cwrs byr gyda’r Brifysgol Agored. Gallwch ddewis o amrywiaeth o bynciau a all eich helpu i ddatblygu set sgiliau newydd, darganfod diddordeb newydd neu roi hwb i’ch gyrfa drwy ddatblygiad proffesiynol parhaus. Gellir ariannu’r cyrsiau hyn drwy Gronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF).

Gweld mwy am gyrsiau byr.

Modiwlau
Mae modiwlau yn cyfrif tuag at gymwysterau’r Brifysgol Agored.

Gan fod cymwysterau’r Brifysgol Agored yn seiliedig ar fodiwlau, gallai’r credydau o fodiwl israddedig gyfrif tuag at dystysgrif addysg uwch, diploma addysg uwch, gradd sylfaen neu radd anrhydedd.

Mae’n dda i chi os ydych am gwblhau uned astudio hunangynhwysol heb ymrwymo i gymhwyster. Bydd gan bob modiwl 30 neu 60 o gredydau, lefel 1 – 3 (NQF Lefel 4 – 6).

Fel arfer, bydd yn cymryd rhwng 6 a 9 mis i gwblhau modiwlau yn rhan-amser.

Gweler mwy am fodiwlau.

Modiwlau Mynediad
Mae gennym bedwar modiwl Mynediad, a gaiff eu galw’n gyrsiau Mynediad weithiau, sy’n cynnig y cyflwyniad perffaith i ddysgu o bell ac astudio gyda’r Brifysgol Agored. Cewch drosolwg bras o’r pwnc sydd o ddiddordeb i chi a gallwch loywi eich sgiliau dysgu a datblygu eich hunanhyder. Gallech hyd yn oed astudio cwrs Mynediad am ddim, neu gallai gael ei ariannu drwy Gronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF).

Mae’n dda i chi os ydych am wella eich hyder a pharatoi i astudio. Mae pob cwrs yn werth 30 o gredydau (L0/NFQ lefel 3). Fel arfer, caiff ein modiwlau Mynediad eu cynnal am 30 wythnos yn rhan-amser, ond mae opsiynau cwrs carlam ar gael. Ewch i wefan Y Brifysgol Agored am fanylion.

Gweler mwy am fodiwlau Mynediad.

Tystysgrifau'r Brifysgol Agored
Mae’n dda i chi os ydych am ganolbwyntio ar broffesiwn neu faes pwnc penodol. Mae’r cymwysterau hyn yn unigryw i’r Brifysgol Agored.

Byddwch yn astudio dau fodiwl lefel 1 sy’n werth 30 o gredydau (60 o gredydau i gyd).

Fel arfer mae’n cymryd blwyddyn i astudio’n rhan-amser.

Gweler mwy am dystysgrifau’r Brifysgol Agored.

Tystysgrif Addysg Uwch
Codwch eich hyder a chefnogwch newid gyrfa neu ddilyniant mewn gyrfa gyfredol. Arddangos eich gallu i astudio ar lefel prifysgol.

Mae’r Dystysgrif Addysg Uwch yn gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol yn ei rhinwedd ei hun, ac mae hefyd yn cyfateb i ddwy ran o dair gyntaf BSc neu BA (Anrhydedd). Mae’n cynnwys 120 o gredydau lefel 1 (120 i gyd).

Fel arfer mae’n cymryd blwyddyn amser llawn neu ddwy flynedd yn rhan-amser i’w chwblhau.

Gweler mwy am Dystysgrif Addysg Uwch.

Diploma Addysg Uwch
Datblygwch yr arbenigedd a werthfawrogir gan lawer o gyflogeion mewn llai o amser na gradd.

Mae’n dda i chi os ydych yn gweithio neu’n gwirfoddoli mewn maes penodol ac am wella eich gwybodaeth a’ch sgiliau proffesiynol a thechnegol.

Mae’n gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol yn ei rinwedd ei hun, ac mae’n cyfateb i ddwy ran o dair gyntaf gradd anrhydedd. Mae’n cynnwys 120 o gredydau lefel 1 a 120 o gredydau lefel 2 (240 i gyd).

Fel arfer mae’n cymryd dwy flynedd amser llawn neu bedair blynedd yn rhan-amser i’w gwblhau.

Gweler mwy am Ddiplomâu Addysg Uwch.

Gradd Anrhydedd

Agorwch y drws i swyddi a chynlluniau graddedigion, cymwysterau ôl-raddedig a swyddi lefel uwch.

Mae tri cham i’n graddau, gyda 120 o gredydau ym mhob un. Er mwyn graddio, bydd angen i chi gwblhau 360 o gredydau i gyd.

Fel arfer mae’n cymryd tair blynedd amser llawn neu chwe blynedd yn rhan-amser i’w chwblhau.

Gweler mwy am raddau Anrhydedd.

Cymwysterau Agored

Heb gyfyngiadau arbenigedd pwnc benodol, gallwch bennu cyfeiriad eich dysgu. Dewiswch o blith dros 250 o fodiwlau mewn 16 o feysydd pwnc er mwyn creu cymhwyster unigryw sy’n addas i’ch diddordebau ac a fydd yn eich helpu i sefyll allan yn y farchnad swyddi. Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys 120 o gredydau lefel 1, 120 o gredydau lefel 2 a 120 o gredydau lefel 3 (360 i gyd).

Gweler mwy am gymwysterau Agored.

Graddau Sylfaen
Mae’r cymhwyster hyblyg hwn yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau dysgu gydol oes a fydd yn agor drysau i astudiaeth bellach a datblygiad gyrfa. Gallwch ddewis o amrywiaeth eang o fodiwlau diddorol mewn unrhyw bynciau yr hoffech, yn dibynnu ar eich diddordebau a’ch uchelgeisiau o ran gyrfa – gan gynnwys modiwlau sy’n gysylltiedig â gwaith i’ch helpu yn eich rôl bresennol a gwella eich cyflogadwyedd yn y dyfodol.

Gweler mwy am raddau Sylfaen.

Graddau meistr integredig
Mae’n dda i chi os ydych am astudio ar lefel israddedig ac ôl-raddedig. Mae hyn yn cyfuno astudiaethau israddedig ac ôl-raddedig a byddwch yn ennill 480 credyd. Yn nodweddiadol mae’n cymryd 8 mlynedd yn rhan-amser.

Gweler mwy am raddau meistr integredig.

Prev Next

Noder bod cymorth gan Gronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF) yn amodol ar gymhwystra a rhaid cael cymeradwyaeth gan swyddogion prosiect yr undeb ar gyfer y gronfa.

Mynediad

Modiwl Mynediad y Celfyddydau ac Ieithoedd

Gyda'r modiwl Mynediad hwn, byddwch yn archwilio meysydd eang, ond cysylltiedig, y celfyddydau, dyniaethau ac ieithoedd. Caiff pob pwnc ei gyflwyno a'i esbonio ar gyflymder cyfforddus er mwyn datblygu, neu loywi, eich gwybodaeth am bynciau gan gynnwys hanes, hanes celf, llenyddiaeth Saesneg ac astudiaethau iaith Saesneg.

Gallech fod yn gymwys i astudio modiwl Mynediad am ddim. Dysgwch fwy ar wefan Y Brifysgol Agored.

Astudio (rhan-amser)

30 wythnos

Credydau a enillir

30 o gredydau

Cost y cwrs

£328

Cymorth gan WULF:

Ar gael

Mynediad

Modiwl Mynediad Seicoleg, y Gwyddorau Cymdeithasol a Llesiant

Mae'r modiwl Mynediad hwn yn rhoi'r cyfle i chi gael blas ar rai o'n pynciau mwyaf poblogaidd, fel seicoleg, plentyndod ac ieuenctid, y blynyddoedd cynnar, iechyd a llesiant cymdeithasol, chwaraeon, addysg a'r gwyddorau cymdeithasol. Cewch eich cyflwyno i drafodaethau theori a byddwch yn ymgysylltu â digwyddiadau bywyd go iawn er mwyn meithrin eich gwybodaeth am y pynciau eang hyn a'ch dealltwriaeth ohonynt.

Gallech fod yn gymwys i astudio modiwl Mynediad am ddim. Dysgwch fwy ar wefan Y Brifysgol Agored.

Astudio (rhan-amser)

30 wythnos

Credydau a enillir

30 o gredydau

Cost y cwrs

£328

Cymorth gan WULF:

Ar gael

Mynediad

Modiwl Mynediad Gwyddoniaeth, Technoleg a Mathemateg

Gyda chymysgedd o astudiaeth ddamcaniaethol a rhai arbrofion ymarferol, gall y modiwl Mynediad hwn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau er mwyn astudio pynciau STEM yn y dyfodol, ni waeth beth fo'ch man cychwyn. Caiff pob pwnc ei gyflwyno a'i esbonio ar gyflymder cyfforddus er mwyn datblygu, neu loywi, eich gwybodaeth am bynciau gan gynnwys gwyddoniaeth, peirianneg a dylunio, yr amgylchedd, mathemateg, a chyfrifiadura a TG.

Gallech fod yn gymwys i astudio modiwl Mynediad am ddim. Dysgwch fwy ar wefan Y Brifysgol Agored.

Astudio (rhan-amser)

30 wythnos

Credydau a enillir

30 o gredydau

Cost y cwrs

£328

Cymorth gan WULF:

Ar gael

Gradd

Gradd Agored

Mae'r radd Agored yn eich galluogi i ddwyn meysydd astudio gwahanol ynghyd mewn ffordd gwbl hyblyg er mwyn datblygu gwybodaeth a sgiliau. Mae rhyddid gennych i gyfuno modiwlau o ystod eang o feysydd pwnc a chreu gradd, diploma neu dystysgrif unigryw sy'n addas i'ch uchelgeisiau proffesiynol neu eich diddordebau personol.

Astudio (rhan-amser)

6 blynedd

Credydau a enillir

360 o gredydau

Cost y cwrs

£7,872

Gradd

Gradd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Mae'r radd hon yn rhoi dealltwriaeth gadarn a beirniadol i chi o bolisi, theori ac ymarfer iechyd a gofal cymdeithasol, sy'n hanfodol yn sector gofal heddiw sy'n newid yn gyflym. Mae angen i weithwyr proffesiynol ar bob lefel fod yn rhagweithiol ac yn hyblyg er mwyn llwyddo a, thrwy eich astudiaethau, byddwch yn datblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer ymarfer effeithiol mewn amgylchedd amrywiol ac amlddisgyblaethol.

Astudio (rhan-amser)

6 blynedd

Credydau a enillir

360 o gredydau

Cost y cwrs

£7,872

Modiwl

Gwneud i'ch dysgu gyfrif

Drwy gyfres o bynciau a thasgau asesu, byddwch yn archwilio'r hyn rydych wedi'i ddysgu wrth ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i fod yn fyfyriwr llwyddiannus. Chi fydd yn dewis pa gyrsiau rydych am eu hastudio, sy'n gwneud y profiad dysgu hwn yn un cwbl bersonol.

Astudio (rhan-amser)

6 – 9 mis

Credydau a enillir

30 o gredydau

Cost y cwrs

£387

Cymorth gan WULF:

Ar gael

Modiwl

Datblygiad gyrfa a chyflogadwyedd

Beth bynnag fo'r yrfa rydych wedi'i dewis, bydd y modiwl lefel 1 cyflwyniadol allweddol hwn gan Y Brifysgol Agored yn eich galluogi i ddefnyddio eich gweithle fel cyd-destun ar gyfer dysgu, ac yn datblygu eich gallu i gymhwyso eich dysgu er mwyn gwella eich ymarfer yn y gwaith. Byddwch hefyd yn datblygu eich sgiliau meddwl beirniadol ac yn gwella eich dealltwriaeth o sut i ymchwilio i faterion yn y gweithle.

Astudio (rhan-amser)

6 – 9 mis

Credydau a enillir

30 o gredydau

Cost y cwrs

£656

Modiwl

Cyflwyniad i fusnes a rheoli

Mae'r modiwl lefel 1 cyflwyniadol allweddol hwn gan Y Brifysgol Agored yn cynnig cyflwyniad hygyrch a chynhwysfawr i fusnes a rheoli mewn byd wedi'i globaleiddio. Drwy waith darllen ac astudiaethau achos rhyngwladol, byddwch yn archwilio ystod eang o bynciau ym maes busnes a rheoli cyfoes.

Astudio (rhan-amser)

6 – 9 mis

Credydau a enillir

60 o gredydau

Cost y cwrs

£1,312

Tystysgrif Addysg Uwch (CertHE)

Rheoli Busnes

Mae'r cymhwyster hyblyg hwn yn dechrau gyda chi: ble rydych chi nawr, a ble yr hoffech fod yn y dyfodol. Gan ddefnyddio dull gweithredu ymarferol sy'n seiliedig ar eich profiad eich hun, cewch eich cyflwyno i hanfodion busnes a rheoli, y cyd-destun y mae busnesau a sefydliadau eraill yn gweithredu ynddo, a'i nodau a'i nodweddion cyffredin.

Astudio (rhan-amser)

2 flynedd

Credydau a enillir

120 o gredydau

Cost y cwrs

£2,624

Modiwl

Chwarae a chreadigrwydd plant ifanc

Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar ddeall chwarae a chreadigrwydd yn ystod plentyndod cynnar o safbwyntiau proffesiynol a phersonol gwahanol ac amrywiol. Mae'n ystyried sut mae plant ac oedolion eraill yn cael effaith ar y penderfyniadau chwarae a'r dewisiadau creadigol y mae plant yn eu gwneud.

Astudio (rhan-amser)

6 – 9 mis

Credydau a enillir

60 o gredydau

Cost y cwrs

£1,312

Modiwl

Yr amgylchedd: teithiau drwy fyd sy'n newid

Mae'r modiwl hwn yn eich cyflwyno i bynciau o'r gwyddorau naturiol, y gwyddorau cymdeithasol a thechnoleg er mwyn datblygu eich dealltwriaeth o faterion amgylcheddol a phryderon o ran cynaliadwyedd. Mae ein byd yn newid yn gyflym – mae pethau fel newid hinsawdd, galw cynyddol am adnoddau cyfyngedig, effeithiau llygredd a gwastraff, colli bioamrywiaeth a phlanhigion ac anifeiliaid yn prinhau, yn pwyso'n drwm arnom.

Astudio (rhan-amser)

6 – 9 mis

Credydau a enillir

60 o gredydau

Cost y cwrs

£1,312

Gradd

BSc (Anrh) yng Ngwyddor yr Amgylchedd

Mae'r radd hon yn archwilio'r disgyblaethau lluosog sydd eu hangen i ddeall, rheoli a gwarchod ein planed. Byddwch yn asesu problemau amgylcheddol, yn cynnig atebion ac yn meithrin dealltwriaeth gynhwysfawr o'r amgylchedd naturiol. Byddwch yn astudio pynciau, gan gynnwys cadwraeth, ecoleg, ecosystemau, rheoli amgylcheddol ac ynni adnewyddadwy.

Astudio (rhan-amser)

6 blynedd

Credydau a enillir

360 o gredydau

Cost y cwrs

£7,872

Noder bod cymorth gan Gronfa Ddysgu Undebau Cymru yn amodol ar gymhwystra a rhaid cael cymeradwyaeth gan swyddogion prosiect yr undeb ar gyfer y gronfa.

Cwrs byr

Arweinyddiaeth yn y byd digidol

Yn y cwrs hwn, byddwn yn archwilio agweddau dethol ar arweinyddiaeth, gan gynnwys a yw arweinyddiaeth wedi newid yn sylfaenol yn yr oes ddigidol ai peidio. Byddwn yn awgrymu rhai ffyrdd penodol o arwain timau sy'n eich helpu i ganolbwyntio 'ar wneud y pethau iawn'. Byddwch yn cael eich annog i edrych yn wrthrychol ar eich effeithiolrwydd arweinyddiaeth eich hun, ac i adeiladu ar y cyfan a ddysgwch i ddiffinio cynllun datblygu.

Ni cheir credydau am gwblhau'r cwrs hwn.

Astudio (rhan-amser)

20 awr

Cost y cwrs

£250

Cymorth gan Gronfa Ddysgu Undebau Cymru:

Ar gael

Cwrs byr

Rheoli ansicrwydd trwy weithredu polisi

Yn y cwrs hwn byddwch yn darllen astudiaethau achos ac yn gwylio fideos sy'n dangos sut y bydd heriau a pholisïau cymdeithasol yn siapio ein cymdeithasau yn y dyfodol. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i ystyried sut mae polisïau a'r macro-amgylchedd ehangach yn effeithio ar eich sefydliad, a byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio meddalwedd dysgu peirianyddol i gasglu data a thystiolaeth.

Astudio (rhan-amser)

20 awr

Cost y cwrs

£250

Cymorth gan Gronfa Ddysgu Undebau Cymru:

Ar gael

Microgymhwyster

Newid yn yr Hinsawdd: Trawsnewid eich Sefydliad ar gyfer Cynaliadwyedd

Bydd y microgymhwyster hwn yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r dewrder i chi sydd eu hangen arnoch i drawsnewid ymateb eich sefydliad i'r argyfwng hinsawdd ac ecolegol, beth bynnag fo'ch lefel, eich rôl neu sector, a ble bynnag yr ydych yn y byd.

Astudio (rhan-amser)

10 wythnos

Credydau a enillir

10 credyd

Cost y cwrs

£500

Cymorth gan Gronfa Ddysgu Undebau Cymru:

Ar gael

Microgymhwyster

Rheoli Busnes: Rheoli Prosiectau

Bydd y microgymhwyster hwn yn eich cyflwyno i'r egwyddorion, yr adnoddau a'r technegau craidd sydd eu hangen i arwain prosiectau, neu gyfrannu'n llwyddiannus atynt, sy'n ychwanegu gwerth ac yn cyflawni canlyniadau cadarnhaol.

Astudio (rhan-amser)

10 wythnos

Credydau a enillir

10 credyd

Cost y cwrs

£500

Cymorth gan Gronfa Ddysgu Undebau Cymru:

Ar gael

Cwrs byr

Darganfod Cymru a'r Gymraeg

Cwrs ar-lein 100 awr o hyd yw Darganfod Cymru a'r Gymraeg i unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu am Gymru a meithrin sgiliau iaith sylfaenol yn y Gymraeg. Mae'r cwrs wedi'i rannu'n bum thema, gyda phob un yn cynnwys dwy uned sy'n rhoi tua'r un faint o amser i agweddau allweddol ar ddiwylliant Cymru a dysgu Cymraeg.

Ni cheir credydau am gwblhau'r cwrs hwn. Gellir ei ddefnyddio tuag at y modiwl Gwneud i'ch dysgu gyfrif (YXM130) er mwyn ennill credydau'r Brifysgol Agored.

Astudio (rhan-amser)

100 awr

Cost y cwrs

£195

Cymorth gan Gronfa Ddysgu Undebau Cymru:

Ar gael

Cwrs byr

Sgiliau cyfathrebu yn y byd digidol

Bydd y cwrs hwn yn mynd â chi drwy amrywiaeth o newidiadau ym maes cyfathrebu yn ein byd digidol sy'n datblygu'n barhaus. Mae'r cwrs yn rhoi manylion am amrywiaeth o adnoddau cyfathrebu a chyngor ymarferol gan weithwyr proffesiynol ac academyddion i helpu unigolion mewn cymdeithas ac yn y gwaith i ddeall sut i helpu i lywio prosesau cyfathrebu yn strategol.

Ni cheir credydau am gwblhau'r cwrs hwn.

Astudio (rhan-amser)

20 awr

Cost y cwrs

£250

Cymorth gan Gronfa Ddysgu Undebau Cymru:

Ar gael

Modiwl

Cyflwyniad i ofal cymdeithasol

Cewch gyflwyniad cadarn i ofal cymdeithasol a'r rôl y mae'n ei chwarae yn cefnogi annibyniaeth a llesiant y rheini sy'n cael gofal. Dysgwch am y sgiliau hanfodol sydd eu hangen i weithio yn y sector ac ystyried a yw gyrfa ym maes gofal cymdeithasol yn addas i chi.

Ni cheir credydau am gwblhau'r cwrs hwn. Tystysgrif cwblhau (70% i lwyddo).

Astudio (rhan-amser)

48 awr

Cost y cwrs

£180

Cymorth gan Gronfa Ddysgu Undebau Cymru:

Ar gael

Microgymhwyster

Rheoli Busnes: Rheoli ac Arwain Pobl

Wedi'i gynllunio gan academyddion o safon fyd-eang o'r Brifysgol Agored, gyda chyfraniad gan arbenigwyr y diwydiant â safbwyntiau amrywiol, bydd y microgymhwyster hwn yn eich cyflwyno i fframweithiau a syniadau a fydd yn eich helpu i reoli ac arwain pobl mewn ffordd foesegol a chynhwysol.

Astudio (rhan-amser)

10 wythnos

Credydau a enillir

10 credyd

Cost y cwrs

£500

Cymorth gan Gronfa Ddysgu Undebau Cymru:

Ar gael

Cwrs byr

Cyflwyniad i farchnata digidol

P'un a ydych yn newydd i farchnata digidol neu am adeiladu ar eich profiad presennol, bydd y cwrs hwn yn eich cyflwyno i'r egwyddorion craidd a'r tueddiadau diweddaraf a fydd yn eich helpu i gynllunio ymgyrchoedd o'r radd flaenaf sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr ac yn eich tywys drwy faes dynamig marchnata digidol.

Ni cheir credydau am gwblhau'r cwrs hwn. Tystysgrif cwblhau (70% i lwyddo).

Astudio (rhan-amser)

24 awr

Cost y cwrs

£200

Cymorth gan Gronfa Ddysgu Undebau Cymru:

Ar gael

Microgymhwyster

Cisco: Rhaglennu Python (OpenEDG)

Bydd y microgymhwyster hwn yn helpu i ddechrau eich gyrfa ym maes rhaglenni, p'un ai megis cychwyn ydych chi neu os ydych eisoes yn gweithio ym maes technoleg ddigidol. Byddwch yn datblygu sgiliau a gydnabyddir gan y diwydiant ac yn gwella eich cyfleoedd cyflogaeth a datblygiad gyrfa.

Astudio (rhan-amser)

10 wythnos

Credydau a enillir

10 credyd

Cost y cwrs

£275

Cymorth gan Gronfa Ddysgu Undebau Cymru:

Ar gael

Cwrs byr

Sylfeini cyfraith mewnfudo’r DU (OISC Lefel 1)

Mae’r cwrs yn archwilio’r sgiliau a’r wybodaeth a ddisgwylir gan Gynghorydd Mewnfudo Lefel 1 Swyddfa’r Comisiynydd Gwasanaethau Mewnfudo (OISC). Mae'n addas ar gyfer y rhai sy'n ceisio gweithio fel Cynghorydd Lefel 1 OISC a'r rhai sy'n ceisio ehangu eu gwybodaeth am system fewnfudo'r DU.

Ni cheir credydau am gwblhau'r cwrs hwn.

Astudio (rhan-amser)

60 awr

Cost y cwrs

£249

Cymorth gan Gronfa Ddysgu Undebau Cymru:

Ar gael

Cwrs byr

Cwnsela ar-lein: dechrau arni

P’un a ydych chi’n gwnselydd, yn seicotherapydd neu’n hyfforddai, bydd y cwrs byr 25 awr hwn yn dangos i chi sut i sefydlu a darparu cwnsela ar-lein diogel ac effeithiol. Bydd yn eich dysgu sut i sefydlu cwnsela o bell trwy fideo a/neu ffôn a sut i lywio heriau technoleg, diogelu data, a chontractio, yn ogystal ag archwilio arferion moesegol, asesu addasrwydd cleientiaid ar gyfer therapi ar-lein, rheoli ffiniau, gweithio'n ddiogel a meithrin. cynhwysiant ac amrywiaeth.

Ni cheir credydau am gwblhau'r cwrs hwn.

Astudio (rhan-amser)

25 awr

Cost y cwrs

£200

Cymorth gan Gronfa Ddysgu Undebau Cymru:

Ar gael

Cwrs OpenLearn am ddim

Bod yn un o fyfyrwyr Y Brifysgol Agored

Nod y cwrs hwn yw eich helpu i gael y dechrau gorau posibl ar eich taith gyda'r Brifysgol Agored. Mae myfyrwyr sy'n treulio rhywfaint o amser yn paratoi ar gyfer eu hastudiaethau yn fwy tebygol o lwyddo, felly bydd treulio amser yn gwneud y cwrs hwn nawr yn helpu yn y pen draw.

Astudio (rhan-amser)

12 awr

Ennill

Bathodyn digidol

Cost y cwrs

Am ddim

Cwrs OpenLearn am ddim

Mathemateg bob dydd 1

Ydych chi erioed wedi sylwi pa mor aml mae angen sgiliau mathemateg arnoch yn eich bywyd bob dydd? Mae’r cwrs hwn, sydd am ddim, yn gyflwyniad i Sgiliau Hanfodol Lefel 1 mewn mathemateg. Mae wedi ei ddylunio i’ch ysbrydoli chi i wella’ch sgiliau mathemateg ac i’ch helpu i gofio unrhyw feysydd a aeth yn angof.

Astudio (rhan-amser)

48 awr

Ennill

Bathodyn digidol

Cost y cwrs

Am ddim

Cwrs OpenLearn am ddim

Everyday English 1

Would you like to improve your current English skills or perhaps remember areas you may have forgotten? This free course serves as good preparation for studying the formal English Essential Skills Level 1, which is available in Wales.

Astudio (rhan-amser)

48 awr

Ennill

Bathodyn digidol

Cost y cwrs

Am ddim

Cwrs OpenLearn am ddim

Croeso: Beginners' Welsh

This free course, Croeso: Beginners' Welsh, is taken from Croeso, a beginners' language module that concentrates on Welsh as a tool for communication, but it also provides some insights into Welsh societies and cultures through printed and audio materials.

Astudio (rhan-amser)

4 awr

Cost y cwrs

Am ddim

Cwrs OpenLearn am ddim

Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant

Sut mae eich gweithlu yn teimlo? Pa effaith gafodd y 'newid i weithio ar-lein' ar ôl COVID-19, a'r ymarfer a phrosesau sydd wedi dilyn, ar lesiant staff? Bydd y cwrs hwn yn archwilio'r hyn a olygir gan lesiant yn y gweithle mewn byd gweithio hybrid.

Astudio (rhan-amser)

12 awr

Cost y cwrs

Am ddim

Cwrs OpenLearn am ddim

Felly, rydych chi eisiau bod yn nyrs? Cyflwyniad byr i nyrsio

Mae’r cwrs yma am ddim yn rhoi trosolwg o’r hyn y mae nyrsio’n ei olygu. Mae’n canolbwyntio ar nyrsio yn y DU yn benodol, a hefyd ar ei le yn y byd. Byddwch yn dysgu am bedwar maes nyrsio yn y DU, sut beth yw hyfforddiant nyrsys, yn ogystal â beth sy’n gwneud nyrsys gwych.

Astudio (rhan-amser)

6 awr

Cost y cwrs

Am ddim

Cwrs OpenLearn am ddim

Arweinyddiaeth a dilynyddiaeth

Mae arweinwyr o'n cwmpas ym mhob man – rydym yn dod ar eu traws yn y gwaith ac yn ein hamser rhydd, rydym yn darllen amdanynt yn y wasg – ond ydych chi erioed wedi meddwl beth sy'n gwneud rhywun yn arweinydd da neu ddrwg? Efallai eich bod chi'n ystyried rôl arwain fel y cam nesaf yn eich gyrfa, neu efallai eich bod mewn swydd arwain eisoes ac yn cael trafferth symud eich tîm ymlaen.d.

Astudio (rhan-amser)

24 awr

Ennill

Bathodyn digidol

Cost y cwrs

Am ddim

Cwrs OpenLearn am ddim

Amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithle

Mae'r cwrs am ddim hwn yn eich cyflwyno i fanteision a chymhlethdodau datblygu a chefnogi gweithlu amrywiol a chynhwysol. Mae'n ystyried effaith gadarnhaol amrywiaeth ar lesiant staff ac arloesedd mewn sefydliad, gan wella mantais gystadleuol cwmni a chydlynu â'i gyfrifoldebau cymdeithasol.

Astudio (rhan-amser)

24 awr

Ennill

Bathodyn digidol

Cost y cwrs

Am ddim

Cwrs OpenLearn am ddim

Llwyddo yn y gweithle

Ydych chi eisiau newid swydd? Ydych chi megis cychwyn yn y farchnad swyddi? Ydych chi'n dychwelyd i'r gwaith ar ôl seibiant? Os felly, mae'r cwrs am ddim hwn, Llwyddo yn y gweithle, yn berffaith i chi. Bydd yn eich helpu i fynd i'r afael â chyfleoedd gyrfa drwy ddechrau gyda chi, nid y swydd. Byddwch yn dod i adnabod chi eich hun a'r hyn rydych yn ei werthfawrogi o ran sylfeini eich cynllun gyrfa.

Astudio (rhan-amser)

24 awr

Ennill

Bathodyn digidol

Cost y cwrs

Am ddim

Cwrs OpenLearn am ddim

Sgiliau digidol: llwyddo mewn byd digidol

Bydd y cwrs am ddim hwn yn datblygu eich hyder a'ch sgiliau ar gyfer bywyd ar-lein, boed hynny ar gyfer astudio, gweithio neu fywyd pob dydd. Mae'n archwilio amrywiaeth o sgiliau ac arferion digidol gan gynnwys hunaniaeth ddigidol, llesiant digidol, aros yn ddiogel ac yn gyfreithlon, dod o hyd i wybodaeth ac adnoddau ar-lein a'u defnyddio, a delio â gormod o wybodaeth.

Astudio (rhan-amser)

24 awr

Ennill

Bathodyn digidol

Cost y cwrs

Am ddim

Cwrs OpenLearn am ddim

Cyflwyniad i seiberddiogelwch: aros yn ddiogel ar-lein

Bydd y cwrs ar-lein hwn yn eich helpu i ddeall diogelwch ar-lein a dechrau diogelu eich bywyd digidol, boed hynny gartref neu yn y gwaith. Byddwch yn dysgu sut i adnabod y bygythiadau a allai eich niweidio ar-lein a'r camau y gallwch eu cymryd i leihau'r siawns y byddant yn digwydd i chi.

Astudio (rhan-amser)

24 awr

Ennill

Bathodyn digidol

Cost y cwrs

Am ddim

Sut mae astudio gyda’r Brifysgol Agored yn gweithio?

Rydym yn cynnig amrywiaeth o opsiynau sy’n eich galluogi i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau, beth bynnag fo’ch nod wrth astudio. Os nad ydych yn barod i ymrwymo i radd, gallech ddechrau gyda thystysgrif neu ddiploma addysg uwch. Mae’r rhain yn gymwysterau a gaiff eu parchu yn eu rhinwedd eu hunain, ond maent hefyd yn eich galluogi i adeiladu eich astudiaethau yn raddol. Felly os byddwch yn dewis astudio gradd yn ddiweddarach, byddwch eisoes wedi gwneud rhywfaint o’r gwaith.Mae’n dda i chi os ydych am astudio

Gallwch hefyd ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau gyda microgymhwyster, cwrs byr neu drwy astudio modiwl unigol.

Os oes gennych radd eisoes, efallai fod diddordeb gennych yn un o’n cymwysterau ôl-raddedig.

Ariannu eich astudiaethau

Ffioedd a chyllid yng Nghymru

Mae’n bosibl y bydd cymhwyster Y Brifysgol Agored yn fwy fforddiadwy nag y credwch. Yn yr adran hon, gallwch ddysgu faint y bydd eich cymhwyster yn ei gostio a sut i ariannu eich astudiaethau. Bydd ein Hadnodd Canfod Cyllid yn nodi opsiynau cyllid posibl sydd wedi eu teilwra i chi. Mae cymwysterau’r Brifysgol Agored yn cynnwys cyfres o fodiwlau. Mae gan bob modiwl ffi unigol – o’u hadio gyda’i gilydd, maent yn rhoi cyfanswm y gost i chi. Byddwch yn ariannu eich modiwlau wrth i chi eu hastudio, sy’n golygu na fydd yn rhaid i chi dalu am eich cymhwyster cyfan ymlaen llaw.

Bydd p’un a ydych yn dewis astudio’n rhan-amser neu’n llawn amser yn effeithio ar faint mae’n ei gostio bob blwyddyn. Gyda ni, gallwch astudio’n hyblyg, sy’n golygu y gallwch newid rhwng dwyster rhan-amser a llawn amser trwy gydol eich astudiaethau. Mae llawer o opsiynau i ariannu eich astudiaeth yng Nghymru, o fenthyciad ffioedd dysgu, nawdd cyflogwr, ysgoloriaethau neu daliad uniongyrchol. Rydym hefyd yn cynnig bwrsarïau i gyn-filwyr anabl, pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal, gofalwyr, y rhai sy’n nodi eu bod yn dod o gefndir Du neu bobl sydd wedi’u dadleoli o’u mamwlad. Efallai bod gennych radd yn barod, ac yn dymuno ailsgilio, felly gallech fod yn gymwys i gael benthyciad ffioedd dysgu a chymorth ar gyfer costau byw .

Cofrestrwch eich diddordeb yng Nghronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF)

Gellir ariannu microgymwysterau, cyrsiau byr a chyrsiau Mynediad drwy Gronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF). Mae gofynion cymhwystra yn berthnasol a bydd angen i chi gofrestru eich diddordeb yn gyntaf.

Atebion i’ch cwestiynau

Pa gyfarpar sydd ei angen arnaf i astudio un o gyrsiau'r Brifysgol Agored?

Mae cyrsiau’r Brifysgol Agored ar-lein. Bydd angen mynediad rheolaidd arnoch at liniadur neu gyfrifiadur bwrdd gwaith er mwyn astudio. Mae dyfeisiau symudol fel llechi neu ffonau clyfar yn ddefnyddiol, ond gall fod yn anodd ymgysylltu’n llawn â’r cwrs gan ddefnyddio’r rhain yn unig. Gallech gael mynediad at gyfrifiadur bwrdd gwaith am ddim yn eich llyfrgell leol, neu efallai fod gennych ystafell ddysgu yn eich gweithle.

Beth yw modiwlau, credydau a chymwysterau?

Modiwl yw bloc adeiladu sylfaenol astudiaethau’r Brifysgol Agored. Mae’n cymryd 9 mis i gwblhau modiwlau fel arfer. Pan fyddwch yn cwblhau modiwl yn llwyddiannus, byddwch yn ennill credydau.

Gallwch astudio modiwl ar ei ben ei hun, neu gallwch astudio sawl modiwl er mwyn gweithio tuag at gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol fel tystysgrif, diploma neu radd.

I gael rhagor o wybodaeth am fodiwlau, cymwysterau a chredydau, ewch i wefan Y Brifysgol Agored.

Sut y caiff modiwlau'r Brifysgol Agored eu haddysgu?

Caiff tiwtor ei neilltuo i chi a fydd yn eich tywys drwy eich astudiaethau. Caiff modiwlau eu haddysgu’n gyfan gwbl drwy astudiaethau ar-lein, neu drwy gyfuniad o adnoddau ar-lein a deunyddiau argraffedig. Caiff y rhan fwyaf o diwtorialau eu cyflwyno ar-lein, felly byddwch yn gallu ymuno o unrhyw le y gallwch gysylltu â’r rhyngrwyd

A fyddaf yn mynd i ddarlithoedd? A gaiff unrhyw ran ei chyflwyno wyneb yn wyneb

Gan mai prifysgol dysgu o bell yw’r Brifysgol Agored, ni fydd angen i chi fynd i ddarlithoedd traddodiadol. Byddwch yn gwneud y rhan fwyaf o’ch astudio drwy wefan eich modiwl a gan ddefnyddio deunyddiau cwrs. Gall rhai modiwlau gynnig y cyfle i chi gymryd rhan mewn teithiau maes neu ei gwneud yn ofynnol i chi fynd i ysgol breswyl. Bydd disgrifiadau’r modiwlau yn dweud mwy wrthych.

Sut gallaf gael gafael ar fy neunyddiau cwrs?

Bydd eich deunyddiau cwrs yn unigryw i’r modiwlau y byddwch yn eu hastudio – gallai’r rhain fod ar-lein yn unig, neu’n gyfuniad o ddeunyddiau ar-lein a deunyddiau argraffedig. Bydd modd cael gafael ar unrhyw ddeunyddiau ar-lein drwy wefan eich modiwl ac, os bydd gan eich modiwl ddeunyddiau argraffedig, byddwch yn gallu lawrlwytho copïau electronig fel arfer.

Os bydd angen i chi gael deunyddiau eich modiwl mewn fformat hygyrch neu fformat arall, cofiwch roi gwybod i ni mewn da bryd cyn i’ch modiwl ddechrau. Os hoffech wybod mwy am hygyrchedd yn Y Brifysgol Agored, ewch i’r wefan cymorth anabledd.

Pa mor hygyrch yw eich cyrsiau?

Rydym yn sicrhau bod holl gymwysterau’r Brifysgol Agored mor hygyrch â phosibl gydag ystod gynhwysfawr o wasanaethau i gefnogi holl fyfyrwyr Y Brifysgol Agored. I gael gwybodaeth fanylach, darllenwch y Datganiadau Hygyrchedd ar ddisgrifiadau cyrsiau unigol. I gael trosolwg, edrychwch ar Hygyrchedd yn Y Brifysgol Agored.