Dysgu drwy eich undeb

TUC Cymru mewn partneriaeth â’r Brifysgol Agored yng Nghymru

Dewch o hyd i ffyrdd hyblyg y gallwch ddysgu sgiliau newydd, datblygu eich gyrfa a datgloi eich potensial.

Partneriaeth ddysgu

Cred TUC Cymru y dylai pawb gael y cyfle i ddysgu sgiliau newydd, magu hyder a datblygu eu gyrfa. Rydym wedi partneru â’r Brifysgol Agored yng Nghymru i helpu i uwchsgilio gweithwyr yng Nghymru.

Pam mae’r wefan hon i chi

Os oes diddordeb gennych mewn astudio gyda phrifysgol ond eich bod yn teimlo nad oes gennych yr amser na’r arian, gall y wefan hon eich helpu i wneud y canlynol:

Penderfynu beth i’w astudio

Dod o hyd i ffyrdd o astudio sy’n cyd-fynd â’ch bywyd prysur a’ch swydd, hyd yn oed os nad ydych erioed wedi astudio o’r blaen

Cael cymorth ariannol i astudio drwy Gronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF) yn ogystal ag opsiynau ariannu eraill a dysgu ar-lein am ddim

Cael gwybod am gymorth dysgu a arweinir gan undebau i weithwyr

Dechreuwch eich taith ddysgu heddiw a newidiwch eich dyfodol.

Mathau o astudiaethau sydd ar gael i chi

Cyrsiau a chymwysterau’r Brifysgol Agored

Cyflawnwch eich uchelgeisiau. Beth bynnag yr hoffech ei gyflawni, gall Y Brifysgol Agored eich helpu i wneud hynny. Nid oes angen unrhyw gymwysterau blaenorol arnoch i astudio gyda’r Brifysgol Agored a gallwch fagu hyder gyda modiwl Mynediad wrth i chi weithio tuag at y prif gymhwyster rydych yn anelu ato.

Uwchsgilio gyda microgymhwyster

Mae’r cyrsiau byr datblygu proffesiynol hyn wedi’u cynllunio i’ch helpu i uwchsgilio’n gyflym a chamu ymlaen. Gallwch ddatblygu sgiliau arbenigol mewn cyn lleied â 10-12 wythnos gyda dysgu ar-lein hyblyg

Dysgu ar-lein am ddim

Mae gwefan dysgu ar-lein Y Brifysgol Agored, OpenLearn, yn cynnig dros 10,000 o oriau o ddysgu am ddim. Gallwch ddod o hyd i erthyglau, fideos a gemau yn ogystal â chyrsiau ar-lein a ysgrifennwyd gan arbenigwyr ar ystod enfawr o bynciau. Gallwch ddysgu ar gyflymder sy’n addas i chi, olrhain eich cynnydd ac ennill bathodynnau a thystysgrifau digidol.

Ariannu eich astudiaethau

Darperir Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF) gan Lywodraeth Cymru i helpu i gefnogi dysgu oedolion a arweinir gan undebau yn y gweithle. Mae pob gweithiwr yng Nghymru yn cael y cyfle i gael mynediad i’r gronfa, a gall WULF gefnogi dysgu fel microgredentials a chyrsiau Mynediad y Brifysgol Agored.

Fel arall, mae cymorth ariannol ar gael ar gyfer myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig rhan-amser cymwys yng Nghymru. Os oes gennych anabledd neu anhawster dysgu penodol, efallai y byddwch yn gymwys i gael lwfans Myfyrwyr Anabl neu un o ysgoloriaethau neu fwrsarïau’r Brifysgol Agored.

Astudio gyda’r Brifysgol Agored

Y prif reswm y cawn ein galw’n Brifysgol Agored yw am ein bod yn agored i bawb. Nid oes unrhyw ofynion mynediad academaidd ffurfiol. Mae ein myfyrwyr yn amrywiol a bob blwyddyn, byddwn yn helpu miloedd o bobl i gyflawni pethau anhygoel. Ni ddylai ble rydych mewn bywyd gyfyngu ar ble y gallwch fynd.

Os ydych yn awyddus i gamu ymlaen, uwchsgilio, yn benderfynol o lwyddo ac yn barod i weithio’n galed, yna gallwn eich helpu i ddechrau. Nid addysg uwch ffurfiol yn unig yw hyn ond, yn hytrach, meithrin sgiliau ar bob lefel er mwyn gwella eich bywyd a’ch gwaith.

Mae ein cyrsiau wedi’u cynllunio i ddiwallu anghenion dysgwyr dihyder. Byddwn yn eich hyfforddi drwy eich astudiaethau gyda thiwtor penodol a fforymau myfyrwyr i’ch helpu i fagu hyder a datblygu sgiliau wrth i chi fynd yn eich blaen. Gellir cefnogi cyrsiau Mynediad drwy Gronfa Ddysgu Undebau Cymru.

Uwchsgilio gyda microgymhwyster

Mae’r bartneriaeth hon rhwng Y Brifysgol Agored yng Nghymru, TUC Cymru a’r undebau, yn rhoi cyfle cyffrous i weithwyr yng Nghymru feithrin sgiliau a gwybodaeth gyrfaol y mae galw amdanynt drwy astudio microgredyd a ariennir gan Gronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF). *

Mae’r cyrsiau byr datblygu proffesiynol hyn sydd o safon fyd-eang wedi’u cynllunio i’ch helpu i uwchsgilio’n gyflym a chamu ymlaen. Gallwch ddatblygu sgiliau arbenigol mewn cyn lleied â 10-12 wythnos gyda dysgu ar-lein hyblyg ym maes arweinyddiaeth, rheoli busnes, cyfrifiadura, rheoli prosiectau, yr amgylchedd, addysgu a llawer mwy.

*mae amodau cymhwystra yn berthnasol

Dysgu ar-lein am ddim

A oes diddordeb gennych mewn pwnc newydd ac am ddysgu mwy? P’un a ydych am gael blas ar bwnc neu fynd ati i ddysgu o ddifrif, mae rhywbeth at ddant pawb ar OpenLearn, a hynny am ddim.

OpenLearn yw llwyfan dysgu am ddim Y Brifysgol Agored, gan roi addysg am ddim i bawb fel rhan o’n cylch gwaith cymdeithasol. Rydym yn falch o ddweud ei fod yn cyrraedd dros 10 miliwn o ddysgwyr bob blwyddyn. P’un a oes angen help arnoch gyda mathemateg, Cymraeg neu Saesneg, camu ymlaen yn eich gyrfa neu reoli eich arian, gallwn eich helpu. Dechreuwch ar raddfa fach a datblygwch eich gwybodaeth a’ch portffolio

Cwblhewch gyrsiau i ennill tystysgrifau a bathodynnau i gydnabod eich sgiliau newydd. Rhannwch y rhain â’ch teulu, eich ffrindiau a’ch cyflogwyr.

Cyrsiau sydd ar gael i chi

Prev Next

Modiwl Mynediad y Celfyddydau ac Ieithoedd

Gyda'r modiwl Mynediad hwn, byddwch yn archwilio meysydd eang, ond cysylltiedig, y celfyddydau, dyniaethau ac ieithoedd. Caiff pob pwnc ei gyflwyno a'i esbonio ar gyflymder cyfforddus er mwyn datblygu, neu loywi, eich gwybodaeth am bynciau gan gynnwys hanes, hanes celf, llenyddiaeth Saesneg ac astudiaethau iaith Saesneg.

Modiwl Mynediad Seicoleg, y Gwyddorau Cymdeithasol a Llesiant

Mae'r modiwl Mynediad hwn yn rhoi'r cyfle i chi gael blas ar rai o'n pynciau mwyaf poblogaidd, fel seicoleg, plentyndod ac ieuenctid, y blynyddoedd cynnar, iechyd a llesiant cymdeithasol, chwaraeon, addysg a'r gwyddorau cymdeithasol.

Modiwl Mynediad Gwyddoniaeth, Technoleg a Mathemateg

Gyda chymysgedd o astudiaeth ddamcaniaethol a rhai arbrofion ymarferol, gall y modiwl Mynediad hwn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau er mwyn astudio pynciau STEM yn y dyfodol, ni waeth beth fo'ch man cychwyn.

Cyflwyniad i Fusnes a Rheoli

Mae'r modiwl lefel 1 cyflwyniadol allweddol hwn gan Y Brifysgol Agored yn cynnig cyflwyniad hygyrch a chynhwysfawr i fusnes a rheoli mewn byd wedi'i globaleiddio. Drwy waith darllen ac astudiaethau achos rhyngwladol, byddwch yn archwilio ystod eang o bynciau ym maes busnes a rheoli cyfoes.

Gradd Agored

Mae'r radd Agored yn eich galluogi i ddwyn meysydd astudio gwahanol ynghyd mewn ffordd gwbl hyblyg er mwyn datblygu gwybodaeth a sgiliau. Mae'n radd unigryw oherwydd, heb gyfyngiadau arbenigedd pwnc benodol, gallwch bennu cyfeiriad eich dysgu.

Gradd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Mae'r radd hon yn rhoi dealltwriaeth gadarn a beirniadol i chi o bolisi, theori ac ymarfer iechyd a gofal cymdeithasol, sy'n hanfodol yn sector gofal heddiw sy'n newid yn gyflym.

Cyflwyniad i ofal cymdeithasol

Cewch gyflwyniad cadarn i ofal cymdeithasol a'r rôl y mae'n ei chwarae yn cefnogi annibyniaeth a llesiant y rheini sy'n cael gofal. Dysgwch am y sgiliau hanfodol sydd eu hangen i weithio yn y sector ac ystyried a yw gyrfa ym maes gofal cymdeithasol yn addas i chi.

Cisco: Rhaglennu Python (OpenEDG)

Bydd y microgymhwyster hwn yn helpu i ddechrau eich gyrfa ym maes rhaglenni, p'un ai megis cychwyn ydych chi neu os ydych eisoes yn gweithio ym maes technoleg ddigidol. Byddwch yn datblygu sgiliau a gydnabyddir gan y diwydiant ac yn gwella eich cyfleoedd cyflogaeth a datblygiad gyrfa.

Newid yn yr Hinsawdd: Trawsnewid eich Sefydliad ar gyfer Cynaliadwyedd

Os ydych am wneud newid cadarnhaol yn eich sefydliad ond yn ansicr sut i wneud hynny, neu os ydych am gamu ymlaen yn eich gyrfa ym maes cynaliadwyedd neu ychwanegu gwybodaeth am gynaliadwyedd at eich casgliad o sgiliau, bydd y microgymhwyster hwn yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau ymarferol angenrheidiol i chi.

Cyflwyniad i farchnata digidol

P'un a ydych yn newydd i farchnata digidol neu am adeiladu ar eich profiad presennol, bydd y cwrs hwn yn eich cyflwyno i'r egwyddorion craidd a'r tueddiadau diweddaraf a fydd yn eich helpu i gynllunio ymgyrchoedd o'r radd flaenaf sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr ac yn eich tywys drwy faes dynamig marchnata digidol.

Rheoli Busnes: Rheoli Prosiectau

P'un a ydych eisoes yn ymwneud â phrosiectau neu'n dymuno symud i rôl rheoli prosiectau, bydd y microgymhwyster hwn yn eich helpu i ymgyfarwyddo â'r hanfodion a sut i'w cymhwyso i brosiect yn hyderus.

Rheoli Busnes: Rheoli ac Arwain Pobl

Bydd y microgymhwyster hwn yn eich cyflwyno i fframweithiau a syniadau a fydd yn eich helpu i reoli ac arwain pobl mewn ffordd foesegol a chynhwysol. Byddwch yn dysgu am yr adnoddau a'r technegau beirniadol sydd eu hangen i addasu i anghenion newidiol eich sefydliad ac ymateb iddynt, a datblygu eich gyrfa

Mathemateg bob dydd 1

Ydych chi erioed wedi sylwi pa mor aml mae angen sgiliau mathemateg arnoch yn eich bywyd bob dydd? Mae’r cwrs hwn, sydd am ddim, yn gyflwyniad i Sgiliau Hanfodol Lefel 1 mewn mathemateg. Mae wedi ei ddylunio i’ch ysbrydoli chi i wella’ch sgiliau mathemateg ac i’ch helpu i gofio unrhyw feysydd a aeth yn angof.

Everyday English 1

Would you like to improve your current English skills or perhaps remember areas you may have forgotten? This free course serves as good preparation for studying the formal English Essential Skills Level 1, which is available in Wales.

Croeso: Beginners' Welsh

This free course, Croeso: Beginners' Welsh, is taken from Croeso, a beginners' language module that concentrates on Welsh as a tool for communication, but it also provides some insights into Welsh societies and cultures through printed and audio materials.

Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant

Sut mae eich gweithlu yn teimlo? Pa effaith gafodd y 'newid i weithio ar-lein' ar ôl COVID-19, a'r ymarfer a phrosesau sydd wedi dilyn, ar lesiant staff? Bydd y cwrs hwn yn archwilio'r hyn a olygir gan lesiant yn y gweithle mewn byd gweithio hybrid.

Felly, rydych chi eisiau bod yn nyrs? Cyflwyniad byr i nyrsio

Mae’r cwrs yma am ddim yn rhoi trosolwg o’r hyn y mae nyrsio’n ei olygu. Mae’n canolbwyntio ar nyrsio yn y DU yn benodol, a hefyd ar ei le yn y byd. Byddwch yn dysgu am bedwar maes nyrsio yn y DU, sut beth yw hyfforddiant nyrsys, yn ogystal â beth sy’n gwneud nyrsys gwych.

Cefnogi iechyd meddwl a llesiant plant

Mae iechyd meddwl plant yn bryder byd-eang ac mae diagnosis o gyflyrau iechyd meddwl ymhlith plant yn dod yn fwyfwy cyffredin. Mae'r cwrs hwn yn canolbwyntio ar iechyd meddwl a llesiant babanod a phlant ifanc (0–8 oed), a phwysigrwydd hyn. .

Atebion i’ch cwestiynau

Beth yw natur y bartneriaeth ddysgu y tu ôl i'r wefan hon?

Pwrpas y berthynas rhwng Y Brifysgol Agored yng Nghymru â TUC Cymru ac undebau yng Nghymru yw cynnig cyfleoedd addysg a dysgu i weithwyr yng Nghymru. Roedd y cynnig hwn yn canolbwyntio i ddechrau ar adnoddau dysgu anffurfiol (am ddim) y Brifysgol Agored. Ers hynny mae wedi ehangu i gefnogi astudiaeth ffurfiol (cyflogedig) drwy Gronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF), sef yr hyn y mae’r wefan hon wedi’i chynllunio i’w gyfleu.

Drwy wneud cais i brosiect Cronfa Ddysgu Undebau Cymru eich undeb, gall y gronfa dalu am rai cyrsiau ffurfiol yn rhannol neu’n llawn. Nodwch fod yn rhaid cyflwyno cais i Gronfa Ddysgu Undebau Cymru a bod yn rhaid i arweinydd yr undeb perthnasol ar gyfer y gronfa gytuno arno.

Mae'n swnio fel cyfle gwych, oes unrhyw anfanteision?

Mae hwn yn gyfle gwych i chi. Nid oes unrhyw anfanteision. Os byddwch yn dechrau un o gyrsiau’r Brifysgol Agored, gobeithiwn y byddwch yn ei fwynhau ac yn ei gwblhau’n llwyddiannus. Ond os byddwch yn rhoi’r gorau i’r cwrs, nid oes cosb; ni chodir tâl arnoch am unrhyw ffioedd.

Er mwyn gweld a fydd dysgu gyda’r Brifysgol Agored yn addas i chi, beth am ddechrau gyda chwrs neu ddau am ddim ar OpenLearn ac yna gallwch symud ymlaen i rywbeth ychydig mwy ffurfiol.

Pwy all achub ar y cyfle hwn?

Anelir y cyfle hwn at aelodau undebau yng Nghymru, er bod cymorth ar gael i holl weithwyr Cymru.

Os ydych yn bodloni un o’r meini prawf canlynol ar hyn o bryd, gallwch fynegi diddordeb a chael gwybodaeth am wneud cais am gyllid ar gyfer y cyrsiau ffurfiol (y telir amdanynt) sydd ar gael. Caiff ffioedd y cwrs eu talu’n uniongyrchol i’r Brifysgol Agored ar eich rhan gan Brosiect perthnasol Cronfa Ddysgu Undebau Cymru os ydych yn gymwys

  • Gweithiwr, neu wedi colli swydd yn ddiweddar.
  • Aelod o undeb yng Nghymru.
  • Gall gweithwyr nad ydynt yn aelodau o undeb fod yn gymwys hefyd; ond bydd gan bob undeb ei strwythur ei hun ar gyfer cymorth a gwneud cais.

Cofiwch y gall unrhyw un gael mynediad at y cyrsiau am ddim a ddarperir ar lwyfan OpenLearn Y Brifysgol Agored hefyd.

Faint o amser y bydd fy nghwrs yn ei gymryd?

Mae’r Brifysgol Agored yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau. Mae rhai cyrsiau dysgu am ddim yn cymryd llai nag awr i’w cwblhau, ond mae’r rhan fwyaf ychydig yn fwy sylweddol. Gyda’r rhan fwyaf o gyrsiau’r Brifysgol Agored, chi fydd yn penderfynu ar y cyflymder, felly gallwch gymryd cymaint o amser ag sydd angen i’w cwblhau. Maent wedi’u cynllunio fel y gallwch astudio o gwmpas eich ymrwymiadau eraill, fel eich teulu neu’ch gwaith.

Gall microgymwysterau a chyrsiau Mynediad Y Brifysgol Agored gael eu hariannu gan Gronfa Ddysgu Undebau Cymru. Mae cwrs Mynediad yn cymryd 30 wythnos o astudio fel arfer ac mae microgymhwyster yn cymryd 10-12 wythnos o astudio fel arfer.

Porwch y dudalen Astudio gyda’r Brifysgol Agored i ddysgu mwy.

Pa gymwysterau sydd eu hangen arnaf i ddechrau cwrs gyda'r Brifysgol Agored?

Dim. Sefydlwyd Y Brifysgol Agored i fod yn agored i bawb, ni waeth pa gymwysterau blaenorol sydd ganddynt na beth yw eu cefndir addysgol. Ble bynnag yr ydych heddiw, credwn y gallwn ddod o hyd i gwrs sy’n addas i chi, o wella eich sgiliau sylfaenol mewn mathemateg neu Saesneg, i astudio am radd neu gymhwyster ôl-raddedig.

Mae’r Brifysgol Agored yno i bobl sydd am ddysgu a chaiff hyn ei adlewyrchu yn y ffordd y caiff pob cwrs ei gynllunio. Ei nod yw eich helpu i fagu hyder i ddysgu ochr yn ochr â sgiliau a gwybodaeth newydd.